Adnoddau dysgu am ffilmiau o Gymru

ENGLISH

Bydd yr adnoddau dysgu PDF hyn – a gyllidwyd gan Ffilm Cymru Wales – yn helpu chi i ddefnyddio ffilmiau Hunky Dory, Separado! a Submarine yn yr ystafell ddosbarth.

Hunky Dory

HUNKYPOSTER

Ffilm ysgafn, hwyliog am haf 1976 yw Hunky Dory gan Marc Evans. Mae’r ffilm, a leolir mewn ysgol yn Abertawe, yn dangos Miss Vivienne May (Minnie Driver a’u myfyrwyr yn cynhyrchu fersiwn roc o’r Tempest. Mae adnodd Georgina Newton yn cynnwys canllawiau i golygfeydd allweddol a cynlluniau gwersi, gyda ffocws ar Astudio’r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm.

Separado!

SEPPOSTER

Mae Separado!, gan Dylan Goch a Gruff Rhys, yn dilyn olion traed un o hynafiaid Gruf i Dde America. Mae adnodd Tom Barrance yn awgrymu sut i’w defnyddio mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd i ddysgu ysgrifennu, Hanes, Cymraeg,  Ieithoedd Tramor Modern (Sbaeneg), gwneud ffilmiau, Astudio’r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm.

Submarine

SUBPOSTER

Stori serch hynod, doniol yw ffilm cyntaf Richard Ayoade, a seilir ar nofel Joe Dunthorne. Mae adnodd Georgina Newton yn dangos sut i ddefnyddio’r ffilm boblogaidd annibynnol hon mewn Astudio’r Cyfryngau, Astudiaethau Ffilm a phynciau eraill.

ffcw

wg-acw


Leave a Comment